Cyffredinol

Cliciwch ar y pennawd i gael mwy o wybodaeth

Yn nyddiau globaleiddio a chynhesu byd-eang, teimlwn y dylem wneud ein gorau i barchu’r amgylchedd, ac y mae hynny’n cynnwys yr amgylchedd diwylliannol yn ogystal â’r amgylchedd naturiol. Mae gennym baneli haul, mae’r waliau a’r nenfydau wedi’u hinsiwleiddio’n dda, defnyddir bylbiau egni isel a switsys sy’n troi’r golau i lawr, defnyddir papur toiled wedi’i ailgylchu, mae ein defnyddiau glanhau yn rhai ‘gwyrdd’, fe ailgylchir neu fe gompostir popeth posibl, a cheisir osgoi gadael i'r tap ddiferu'n ddiangen. Cesglir dŵr glaw ar gyfer dyfrhau'r ardd.

Credwn mewn prynu bwyd lleol os yn bosibl, gyda chryn dipyn ohono’n organig, a daw rhai llysiau, perlysiau a ffrwythau o’n gardd ni ein hunain yn y tymor.

 

Sylweddolwn fod gennym le i wella, ond gobeithio ein bod yn cychwyn ar y trywydd iawn.

Lleolwyd Y Goeden Eirin mewn ardal sydd ag atyniadau di-ben-draw, boed law neu hindda. Mae harddwch naturiol yr ardal tu hwnt i'r Eifl i gyfeiriad Aberdaron, Eryri ac Ynys Môn yn anhygoel, ac yn rhoi cyfle dihysbydd i ymwelwyr gerdded, dringo neu feicio, gwylio bywyd gwyllt, pysgota, merlota, nofio, chwarae golff, neu gant a mil o bethau eraill.

Rydym yn barod iawn i gynghori gwesteion lle i fynd a sut i gyrraedd yno. Gwyddom am lwybrau cyhoeddus a lonydd beicio, a gallwn ddarparu mapiau ac arweinlyfrau pwrpasol.

 

Wrth gwrs, mae yma haen ar ben haen o hanes a thraddodiad llenyddol cyfoethog. Gallwch ymweldâ â chartref Parry-Williams yn Rhyd-ddu, neu ganolfan treftadaeth Kate Roberts yn Rhosgadfan, amgueddfa Lloyd George yn Llanystumdwy, canolfan hanes Uwchgwyrfai yng Nghlynnog Fawr neu’r Lôn Goed yn Eifionydd. Mae pentref Eidalaidd Portmeirion yn atyniad poblogaidd iawn, ac y mae cestyll Harlech, Cricieth, Caernarfon, Biwmaris, Conwy a Dolwyddelan o fewn cyrraedd. Gallwch ymweld â dau o blastai’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, sef Plas Newydd ar Ynys Môn a Chastell Penrhyn rhwng Bangor a Bethesda. Mae lluniau Tunnicliffe i’w gweld yn Oriel Môn, ac mae adran wedi’i neilltuo i waith Kyffin Williams hefyd. Mae harddwch ysblennydd Gerddi Bodnant yn denu hefyd. Ceir canolfan gelfyddydol newydd yng Nghaernarfon, sef Galeri. Daw’r Eisteddfod Genedlaethol neu Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd i’r cyffiniau yn eu tro. Ceir amgueddfa lechi ym Mlaenau Ffestiniog a Llanberis, ac yn Llanberis hefyd y mae’r Mynydd Gwefru. Neu beth am bicio draw i Ddulyn ar y fferi o Gaergybi? … Byddai modd sgrifennu’n hirfaith am bethau o’r fath.

Codwyd ac agorwyd Y Goeden Eirin yn wreiddiol fel cartref a thŷ bwyta gan Eluned a John Rowlands yn nechrau'r wythdegau. Wedi ymddeol, daethant yn ôl i fyw yno yn 2003 a'i agor unwaith eto, gan gynnig llety yn ogystal y tro hwn.

 

Daw Eluned o Ddyffryn Ogwen, ac mae ganddi gysylltiadau teuluol â’r Groeslon a Phen-y-groes. Aeth i Brifysgol Cymru Aberystwyth i astudio Daearyddiaeth a Daeareg ac wedi hynny bu’n dysgu ac yn darlithio yn y maes. Y mae’n aelod o Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru, a chyfieithodd nifer o lyfrau a thoreth o ddogfennau o natur dechnegol.

 

Er iddi fod ar gyrsiau byrion gyda chogyddion megis John Tovey ym Miller Howe yn Windermere, ni chafodd hyfforddiant proffesiynol. Flynyddoedd yn ôl enillodd wobr y Sunday Times fel Cogydd y Flwyddyn (Cymru, De-orllewin Lloegr ac Ynysoedd y Sianel), a chyhoeddwyd ryseitiau o’i heiddo mewn cyfrol a ddeilliodd o’r gystadleuaeth honno. Hi oedd awdur Tai Bwyta Cymru a gyhoeddwyd gan Wasg y Lolfa.

 

Yn frodor o Drawsfynydd, aeth John (1938-2015) i astudio’r Gymraeg ym Mhrifysgol Cymru Bangor ac yna i wneud gradd D. Phil yn Rhydychen. Bu’n darlithio yn Abertawe, Coleg y Drindod Caerfyrddin (lle y cyfarfu ag Eluned), Llanbedr Pont Steffan ac Aberystwyth, lle yr oedd yn Athro yn Adran y Gymraeg. Ar ei ymddeoliad, mudodd ef ac Eluned yn ôl i’r Goeden Eirin. Cyhoeddodd saith o nofelau a nifer o gyfrolau beirniadol a bu’n olygydd nifer o gylchgronau poblogaidd ac academaidd. Ef oedd golygydd cyffredinol cyntaf y gyfres 'Y Meddwl a'r Dychymyg Cymreig' a gyhoeddir gan Wasg Prifysgol Cymru.

 

Ymhlith diddordebau John yr oedd cerddoriaeth, bwyd a gwin, a theithio. Derbyniodd hyfforddiant rhan-amser gan Kendall Taylor yn y Coleg Cerdd Brenhinol yn Llundain, gan fynd ati i ennill diploma LRAM ac ARCM. Cyfranodd ysgrifau poblogaidd ar fwyd a gwîn i’r cylchgrawn Barn, ac ymwelodd â thai bwyta ledled Prydain, Iwerddon ac Ynysoedd y Sianel fel arolygydd ar gyfer un o gyfeirlyfrau mwyaf blaenllaw Prydain. Yr oedd ymysg y tîm o arolygwyr a gynhyrchodd y gyfrol Bwyta Allan yng Nghymru 2004 dan arweiniad Colin Pressdee.